Cysylltiad:
Anwen Roberts
Bach y Graig
Tremeirchion
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL17 0UH
Ff: 01745 730 627
Tariff:
Gwely a Brecwast
Pris y pen am noson gan gynnwys brecwast
o £34.00
Hunan Ddarpar:
Pris am wythnos £180-£695 Arhosiad byr hefyd ar gael

Beth am aros yn y ffermdy hanesyddol hwn o'r 16eg ganrif. Y mae wedi'i restru Gradd II ac yn cynnwys carreg gyda'r dyddiad 1567 arni. Y mae Bach y Graig yn foddfa o hanes a hwn oedd yr adeilad cyntaf yng Nghymru i gael ei godi gyda brics. Mae hefyd yn cynnwys nifer o elfennau pensaerniol diddorol ac yr oedd y Dr Samuel Johnson yn gyfarwydd â'r lle. Y mae'n sefyll mewn mangre ysblennydd yng nghanol Dyffryn Clwyd.
Y mae Bach y Graig yn fferm deuluol nodweddiadol Gymreig gyda gwartheg llaeth, stoc ifanc a ieir buarth.
Y mae wedi'i leoli hanner y ffordd rhwng dinas Caer ac Eryri ac yn ganolfan ddelfrydol i'ch gwyliau o fewn cyrraedd i Eryri, Betws y Coed, Caer, trefi glan môr a nifer fawr o atyniadau eraill yng ngogledd Cymru.
O fewn cyrraedd y mae Erddig a Gerddi Bodnant ac y mae yna dri chastell yn y cyffiniau.
Y mae'r ffermdy wedi'i adfer yn chwaethus gyda golud o drawstiau derw, paneli, drysau a simdde fawr. Ceir dewis o wely a Brecwast neu hunan arlwyo.
Y mae llawer o'r ymwelwyr yn dychwelyd dro ar ôl tro i fwynhau'r croeso Cymreig a'r tawelwch. Y mae rhwydd hynt i'n hymwelwyr fynd am dro ar hyd glannau afon Clwyd sydd yn llifo drwy dir y fferm ac y mae pysgota eog a brithyll ar gael yn ystod y tymor. Dewis arall yw mynd ar hyd ein llwybr drwy'r coed sydd wedi'i agor yn arbennig gennym er mwyn i'n ymwelwyr fwynhau'r amrywiaeth o blanhigion, blodau a bywyd gwyllt. Y mae yna gofnodion sydd yn profi bod y coedlannau hyn yn dyddio o'r canoloesoedd ac fe fu'r Tywysog Du yn hela yma ar un adeg.
Rhywbeth newydd a godwyd yn 2005 oedd oriel arbennig er mwyn i'n hymwelwyr wylio'r godro.
Gwely a Brecwast
Y mae en suite mewn tair llofft/cyfleusterau preifat; dwy ystafell gyda chawod gref. Hefyd gyfleusterau gweud te/coffi, teledu lliw a larwm radio ym mhob ystafell. Y mae gwelyau pres gwreiddiol wedi eu hadnewyddu'n ofalus mewn dwy o'r llofftydd. Yn y lolfa y mae yna drawstiau derw a simdde fawr sydd yn cynnwys tân coed pan mae angen.. Y mae gwres canolog drwy'r ffermdy. Paratoir brecwast harti drwy ddefnyddio cynnyrch cartref a lleol ac wrth gwrs wyau buarth.
Hunan Ddarpar
Adain hunan-gynhaliol o'r ffermdy yw'r adran hunan arlwyo. Y mae'n cynnwys tair llofft i gysgu chwe pherson mewn gwely dwbl mawr pedwar postyn, un dwbl a dau wely sengl. Yn yr ystafell 'molchi y mae yna fath haearn Fictoraidd, cawod ar wahân, dysgl 'molchi a thy bach. Ceir hefyd lolfa gysurus gyda phaneli derw gyda llosgwr coed, teledu lliw a fideo. Y mae popeth ar gael yn y gegin gyda pheiriant golchi, rhewgell a holl angenrheidiau trydan. Y mae ty bach a dysgl 'molchi i lawr y grisiau. Hefyd gardd fawr gyda siglen.

Bryn Coch | Bryn Dansi | Llys-y-Bryn | Pant Glas Canol | Rhydonnen | Tyddyn Chambers | Tyddyn Isaf
