Cysylltiad:
Mrs Gaenor Jones
Bryn Coch
Clawddnewydd
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 2NA
Ff: 01824 750 603
S: 07881 410 361
Tariff:
Pris y pen y noson
yn cynnwys brecwast o £25.00
Cinio: £15.00

Lleolir Bryn Coch ger cymuned glos Clawddnewydd ac ar bwys coedwig fawreddog Clocaenog - lle gwych i fynd am dro. Y mae'r tirwedd dramatig elwir Cefn Cloion yn gefndir i'r fferm deuluol hon sydd yn estyn croeso Cymreig a bwyd cartref gwych.
Casgliad o adeiladau fferm oedd Bryn Coch yn wreiddiol a thua 1890 trawsnewidiwyd un o'r ysguboriau yn dy. Medrir gweld rhai o'r nodweddion hynny o gwmpas y ty hyd heddiw. Galwyd y lle yn Bryn Coch oherwydd bod brics coch yn cael eu cynhyrchu yma ar un adeg - fe'u gwnaed o glai o'r caeau. Y mae ein teulu wedi byw yma ers dros ganrif ac y mae'r bedwaredd genhedlaeth yn awr yn amaethu.
Y mae'r cartref teuluol hwn mewn mangre dangnefeddus. Y mae yma ystafell deulu ac un arall gyda dau wely sengl, gydag en suite bob un. Ceir cyfleusterau gwneud te/coffi, a radio a theledu yn y ddwy ystafell.Y mae yna hefyd ystafell eistedd gyda thân agored er mwyn i chi fedru ymlacio fin nos. Ceir croeso Cymreig gan y teulu, bwyd cartref ardderchog yn defnyddio cynnyrch lleol. Yr ydym yn darparu hefyd ar gyfer llysieuwyr.
Y mae'r fferm o fewn pedair milltir i Rhuthun ac yn gyfleus i ddinas Caer, Eryri ac arfordir gogledd Cymru. Gerllaw y mae Coedwig Clocaenog, un o'r mannau prin lle gwelir gwiwerod coch a grugieir duon. Y mae yna ddigonedd o lwybrau a mannau i reidio beic yn y cyffiniau.

Bach y Graig | Bryn Dansi | Llys-y-Bryn | Pant Glas Canol | Rhydonnen | Tyddyn Chambers | Tyddyn Isaf
