FFERM BRYN DANSI

Cysylltiad:
Brenda Williams
Fferm Bryn Dansi
Dolwen
Abergele
Conwy
LL22 8NS

Ff: 01492 680 295
Sym: 07876 761 638

agorwch y map
ebost
gwefan

Tariff:
Prisiau £30-£32
y pen y noson gyda dau'n rhannu'r ystafell ddwbl.
Sengl £40-£45 y noson.

Arian parod neu siec yn unig.

 

 

Bryn Dansi

Y mae croeso cynnes Cymreig yn eich aros! Dewch i ymlacio yn ein cartref helaeth sydd newydd gael ei adnewyddu ac yn cynnwys cyfoeth o drawstiau derw a gratiau carreg. Y mae'r fferm yn gorwedd yng nghesail gwlad o harddwch eithriadol a dim ond 3.5 milltir o arfordir gogledd Cymru a thraffordd yr A55 ym Mae Colwyn. Cewch gyfle i flasu ysblander gogledd Cymru ac yr ydym wedi ein lleoli mewn lle cyfleus o fewn cyrraedd i Barc Cenedlaethol Eryri, Llandudno, Ynys Môn a Chaer. Yr ydym hefyd o fewn chwarter awr i Gastell Conwy a Gerddi Bodnant a milltiroedd lawer o arfordir llygad-dynnol.

Fe'ch gwahoddir i rannu ein cartref - coffi yn yr ystafell wydr tra'n mwynhau'r olygfa o'r cymoedd a'r mynyddoedd gyda defaid a gwartheg yn pori yn y caeau. Neu efallai sipian  gwin o'r bar gonestrwydd yn y lolfa gysurus wrth benderfynu beth i'w wneud drannoeth neu wylio'r teledu 42" /CD.

Mae gennym ystafell wely eang en suite ar y llawr isaf gyda gwely enfawr a chawod uwchben y bath; hefyd ystafell ddwbl ar y llawr cyntaf gyda dysgl ymolchi a phwynt eillio ac ystafell ymolchi breifat foethus gyda bath traed llew a chaban cawod dwbl. Ar gael hefyd y mae cyfleusterau te a choffi/siocled poeth/te perlysiau/sychwr gwallt/cloc radio. Hefyd teledu a detholiad o gylchgronau. Gwres canolog.

Cewch gymeryd eich amser dros frecwast wedi'i goginio yn yr AGA a'i weini yn yr ystafell fwyta neu'r ystafell wydr. Ceir dewis o iogwrt a selsig wedi eu gwneud yn lleol ac hefyd wyau buarth a bara cartref.

Beth arall allech ei ddymuno? Lle gwych, golygfeydd ysblennydd a chefn gwlad Cymru ar garreg y drws. Cewch y gorau o ddau fyd yma ym Mryn Dansi ac fe fyddwch yn ysu am ddod yn ôl.

Top »

Bach y Graig | Bryn Coch | Llys-y-Bryn | Pant Glas Canol | Rhydonnen | Tyddyn Chambers | Tyddyn Isaf