LLYS-Y-BRYN

Cysylltiad:
Mary Mars Lloyd
Llys-y-Bryn
Llanynys
Dinbych
Sir Ddinbych
LL16 4NY

Ff: 01824 790 276

agorwch y map
ebost

Tariff:
Pris noson y pen gan
gynnwys brecwast
o £25.00

 

 

Llys y Bryn

Yn wynebu Bryniau Clwyd yn eu holl ogoniant y mae'r cartref cyfoes cysurus hwn yn estyn croeso cynnes i bob teithiwr.

Y mae Llys y Bryn yn cynnig gwely a brecwast mewn awyrgylch gartrefol mewn ty fferm lle medr ymwelwyr wylio gweithgareddau'r fferm ar unrhyw amser o'r flwyddyn. Y mae'r cyfleusterau wedi eu cynllunio'n dda ac yn addas ar gyfer pobl anabl. Y mae Llys y Bryn yng nghanol golygfeydd llygad-dynnol a thrwy pob ffenest medrir gweld  Bryniau Clwyd a Dyffryn Clwyd. Y mae eich gwesteiwraig yn dda ei llaw ac fe welir ei chynnyrch celfyddydol o gwmpas y ty.

Y mae rhwydwaith o lonydd cefn gwlad o gwmpas y ffermdy ac o fewn chwarter milltir i afon Clwyd. Medrir cerdded i bentref Llanrhaeadr er mwyn cael gweld eglwys hynafol y plwyf sydd yn enwog am ei Ffenest Jesse neu fwynhau pryd o fwyd yn y bwytai a'r tafarndai gwych lleol.

Top »

Bach y Graig | Bryn Dansi | Bryn Coch | Pant Glas Canol | Rhydonnen | Tyddyn Chambers | Tyddyn Isaf