PANT GLAS CANOL

Cysylltiad:
Mrs Ann Wilkinson
Pant Glas Canol
Bontuchel
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 2BS

Ffon: 01824 710 639
Sym: 07790 387 062
Ffacs: 08720 850 639

agorwch y map
ebost
gwefan

Tariff:
Pris noson y pen gan
gynnwys brecwast o £26.00

 

 

 Pant Glas Canol

Mae'n bleser cael croesawu gwesteion i gael ymlacio mewn lle tawel pan fyddwch ar ei’ch gwyliau. Mae Pant Glas Canol yn ffermdy pren o’r 15fed ganrif a gafodd ei adnewyddu yn 1990. O sil y ffenest isaf i fyny, mae’r tŷ yn ymdebygu i gorff llong a’i phen i lawr. Mae Pant Glas Canol wedi ei leoli mewn llecyn hardd yn y wlad, yn agos i bentre Rhewl, ac yn ddelfrydol i dre Dinbych a thref canoloesol Ruthun, yn gyfleus hefyd i ddinas Gaer, Betws-y-Coed, Llangollen, Llandudno, Parc Cenedlaethol Eryri, glannau mor gogledd Cymru a'i Chastelli.

Mae gwres canolig yn y tŷ ac y mae wedi'i addurno a’i ddodrefnu i safon uchel gan roi’r ymdeimlad o gynhesrwydd a chysur. Y mae tair ystafell yn cael eu gosod - un ddwbwl ac un gyda dau wely sengl - y ddwy yn en-suite. Mae'r drydedd lloft ar gyfer teulu gyda ystafell molchi preifat gyda digonedd o ddŵr poeth. Y mae cyfleusterau gwneud tê, teledu a chloc radio yn mhob ystafell. Mae croeso i anifeilaid anwes drwy drefniant ymlaen llaw, a digon o le i barcio.

Hefyd mae wedi'i leoli mewn llecyn hardd ac yn ddelfrydol at rhai sydd eisiau cerdded mewn amgylchedd ysblennydd gyda chyfle i weld y bywyd gwyllt. Y mae cyflawnder o fwytai gwych yn y pentrefi cyfagos. Mae Pant Glas Canol wedi'i leoli mewn llecyn cyfagos i lyn Brenig, lle medrwch blaenbori yn y siop anrhegion, neu gwylio golygfa oddi mewn caffi sydd ar ochr y llyn. Gall cerddwyr ymchwilio mannau archeolegol, a phlant ieuengaf mwynhau maes chware di-dâl.

O Rhuthun, cymerwch yr A525 i gyfeiriad Dinbych drwy bentre Rhewl, dros y bont ac ymlaen rhyw hanner milltir trowch i’r chwith. Cariwch ymlaen ar hyd y ffordd nes dod i'r cyffordd nesaf a throi i’r chwith. Yr ail ar y dde yw fferm Pant Glas Canol.

 

Top »

Bach y Graig | Bryn Dansi | Bryn Coch | Llys-y-Bryn | Rhydonnen | Tyddyn Chambers | Tyddyn Isaf