Cysylltiad:
Mrs. Buddug Jones
Rhydonnen
Llanychan
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 1UG
Ff: 01824 790 258
Sym: 07919 235 702
Tariff:
Pris yn dechrau o £34.00
(dau berson yn rhannu ystafell)
Ystafell Sengl o
£38.00 y noson

Y mae'r ffermdy unigryw hwn o'r 14eg ganrif yn sicr o ddenu chwilfrydedd oherwydd ei hanes a'i harddwch. Cewch eich syfrdanu gan ansawdd y trawstiau derw a'r simdde fawr heb sôn am y paneli o oes y Frenhines Anne yn yr ystafell fwyta a'r lolfa gyda'i waliau plethwaith a chlai lle gall ein ymwelwyr ymlacio mewn awyrgylch gartrefol gyda chyflenwad o lyfrau a chylchgronau.
Y mae'r ystafellodd yn eang ac yn gysurus gyda chyfleusterau en suite. Popeth wedi'i addurno'n chwaethus a'r dodrefn gyda gwelyau pres a chadeiriau esmwyth yn gweddu i'r ty a cheir golygfeydd ysblennydd o'r wlad o gwmpas drwy bob ffenest. Y mae'r seler wedi'i hadnewyddu ac yn cynnwys bwrdd pwl a gemau eraill. Cewch hefyd fwynhau prydau bwyd o'r raddfa uchaf.
Y mae Rhydonnen yn fangre hanesyddol tu hwnt. Yr oedd Siryf Sir Ddinbych yn byw yma ar un adeg ac arwyddion eraill o'r etifeddiaeth oludog yw Twll Offeiriad, twnel a choeden ywen 800 mlynedd oed sydd yn teyrnasu dros borth yr adeilad du a gwyn hwn. Y mae waliau o gwmpas yr ardd ac oddi yno ceir golygfeydd llygad-dynnol o Ddyffryn Clwyd a'r Bryniau o'i gwmpas.
O fewn cyrraedd hawdd i gerddwyr a seiclwyr y mae Clawdd Offa, Moel Famau a thref farchnad hanesydol Rhuthun gyda'i adeiladau ffrâm pren unigryw, siopau o bob math a chastell. Mae eich gwesteiwraig yn eich sicrhau y cewch groeso twymgalon mewn cartref cysurus a chynnes.

Bach y Graig | Bryn Coch | Bryn Dansi | Llys-y-Bryn | Pant Glas Canol | Tyddyn Chambers | Tyddyn Isaf
