TYDDYN CHAMBERS

Cysylltiad:
Mrs Ella Williams
Tyddyn Chambers
Pwllglas
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 2LS

Ff: 01824 750 683
Sym: 07745 589 946

agorwch y map
ebost
gwefan

Tariff:
Pris noson y pen
gan gynnwys brecwast o £26.00

 

Tyddyn Chambers

Ceir golygfeydd o Fryniau Clwyd aiff â'ch gwynt ac y mae'r fferm draddodiadol hon yn canolbwyntio ar Laeth, Biff a Defaid.

Mae yma awyrgylch ymlaciol gysurus yn y ffermdy ac yn 2000 gyda chymorth Bwrdd Croeso Cymru cafodd  ei adnewyddu gydag ystafelloedd en suite chwaethus.

Ble bynnag yr ydych, yn yr ardd neu rywle ar y fferm brysur hon, y mae swn cerddoriaeth bob amser i'w glywed. Mae eich gwestai Huw ac Ella Williams a'u merched yn gerddorion brwd ac fe fyddai'n werth mynd i glywed y côr lleol enwog yn ymarfer bob nos Iau.

Ceir un ystafell ddwbl, un ystafell deulu ac un  sengl. Pobman wedi'i addurno a phob ystafell yn en suite gyda theledu, te/coffi a larwm radio ynghyd â gwres canolog drwy'r ty i gyd. Mae ystafell fwyta arbennig i'r ymwelwyr ynghyd â lolfa gyda theledu. Bwyd cartref bob amser i wneud i chi deimlo eich bod gartref oddi cartref.

Y mae Tyddyn Chambers yn agored drwy'r flwyddyn. Er chwarae teg i bawb ni chaniateir ysmygu yn y ty o gwbl.

O fewn cyrraedd i rai o atyniadau gogledd Cymru.

Top »

Bach y Graig | Bryn Coch | Bryn Dansi Farm | Llys-y-Bryn | Pant Glas Canol | Rhydonnen | Tyddyn Isaf