Cysylltiad:
Nerys Jones
Tyddyn Isaf
Rhewl
Sir Ddinbych
LL15 1UH
Ffon: 01824 703 367
Ffacs: 01824 703 367
Tariff:
Hunan Ddarpar:
Pris am wythnos
£180 - £380

Y mae fferm Tyddyn Isaf ryw flltir o bentref y Rhewl a 3 milltir o dref hanesyddol Rhuthun (0.S SJ.110616) yng nghanol dyffryn clodfawr Clwyd. Ceir golygfeydd syfrdanol o Fryniau Clwyd ac o fewn milltir y mae'r dafarn leol y Drovers' Arms. Ar gael yn Nhyddyn Isaf y mae dwy uned fel a ganlyn:-
Y mae'r gyntaf yn cynnig hunan ddarpar mewn rhan hunan gynhaliol o'r ffermdy sydd yn cynnwys digonedd o le ac wedi'i ddodrefnu'n gysurus ac yn cynnwys trawstiau derw. Mae yna lolfa/lle bwyta, cegin a dwy ystafell wely lle medrir cysgu chwech - 1 ystafell gyda gwely dwbl ac un arall gyda gwely dwbl a dau wely sengl. Yn yr ystafell ymolchi y mae yna gawod dros y bath a dysgl ymolchi. Y mae'r ty bach ar wahân.
Y GRANAR - Y mae'r Granar yn Nhyddyn Isaf wedi'i drawsnewid yn fwthyn hunan gynhaliol ym mhen draw'r ffermdy ac y mae hwn hefyd yn cynnwys trawstiau derw. Ceir ystafell wely ar y llawr isaf gyda dau wely sengl ac uned ymbincio ac ysgafell gyda chawod a thy bach. I fyny'r grisiau y mae yna lolfa gyda gwely-soffa dwbl a chadeiriau a chegin gyda lle i fwyta. Gellir cysgu 2-4 yn y Granar.
Y mae'r ddwy uned wedi eu dodrefnu'n llawn gyda pheiriant golchi otomatig, cyfleusterau smwddio, teledu lliw a radio, tân trydan yn y lolfa, gwres canolog yn y gaeaf, cot, cadair uchel. Dillad gwely oll ar gael. Y mae yna hefyd ardd gyda bwrdd a chadeiriau.


Bach y Graig | Bryn Dansi | Bryn Coch | Llys-y-Bryn | Pant Glas Canol | Rhydonnen | Tyddyn Chambers
