Bach y Graig (hd) (g&b)
Bryn Coch (g&b)
Bryn Dansi (g&b)
Llys-y-Bryn (g&b)
Pant Glas Canol (g&b)
Rhydonnen (g&b)
Tyddyn Chambers (g&b)
Tyddyn Isaf (hd)
*hd: hunan ddarpar
*g&b: gwely a brecwast
“Dowch i ymweld â Dyffryn Clwyd a mwynhau gwyliau bythgofiadwy o fewn tirwedd gogoneddus Bryniau Clwyd sydd wedi eu dynodi'n Ardal Arbennig o Harddwch Naturiol. Heb sôn am feysydd gleision y Dyffryn. Yng nghanol y dolydd ffrwythlon sydd yn ymestyn i lawr i'r môr y mae tair tref farchnad sef Rhuthun, Dinbych a Llanelwy."

Rhuthun Fe'i galwyd y dref farchnad fwyaf ysblennydd yn y Dyffryn, llawn o drigolion ac adeiladau eithriadol. Y mae'r disgrifiad hwn yn parhau i fod yn wir am y Rhuthun gyfoes. Yn nodedig am Sgwâr San Pedr, y castell coch, themâu canoloesol a phensaerniaeth amrywiol yr adeiladau y mae'r dref fechan hon yn werth ymweld â hi fel rhan o'ch ymweliad â Dyffryn Clwyd. Mae'n medru ymffrostio mewn siopau unigryw a chasgliad o gelfyddyd gyfoes yn y Ganolfan Grefft. Mae yma hefyd wyl gerdd yn yr haf, marchnad Sefydliad y Merched o Chwefror i Ragfyr a marchnad ffermwyr fisol. Ail-agorwyd carchar hanesyddol y dref yn ddiweddar gan estyn cyfle i weld beth oedd yn mynd ymlaen yno.
Dinbych Y mae yn nhref Dinbych un o'r cestyll mwyaf urddasol o holl gestyll Edward I (1282) yng Nghymru. Y mae adran sylweddol o waliau'r dref yn werth eu gweld. Felly hefyd y twr uwch Porth Burgess yn fynedfa i'r dref. Y mae'r dref brysur hon yn cynnal nifer o achlysuron megis yr Wyl Wythnosol a'i marchnad, marchnad Sefydliad y Merched yn llawn o gacennau a bisgedi, jam a chrefftau lleol, Marchnad fisol y Ffermwyr a Sioe Amaethyddol Dinbych a Fflint bob mis Awst. Ar Wyl San Steffan cynhelir y Râs Faril enwog gyda rasus i'r dynion, merched ac ieuenctid. Y diwrnod hwnnw hefyd y mae Helwyr Dinbych a Fflint yn ymgynnull ar y sgwâr.
Llanelwy Yn y dref fach hyfryd hon y mae eglwys gadeiriol leiaf Cymru yn rhagarglwyddiaeth. Y mae hefyd mewn lleoliad perffaith gan ei bod yn agos i briffyrdd gogledd Cymru heb sôn am fod o fewn cyrraedd i drefi glan môr y Rhyl a Phrestatyn. Ym mis Medi cynhelir y Wyl Gerdd yn y brifeglwys.
Clawdd Offa I'r cerddwyr selog y mae'r Dyffryn yn cynnwys y ffin hanesyddol rhwng y Celtiaid a'r Sacsoniaid. Mae'n hawdd adnabod y clawdd pridd hyd at wyth medr o uchder ynghyd â ffos ar ei hyd. Cafodd ei godi gan Offa, Brenin Mersia (canolbarth Lloegr heddiw) ac y mae'n werth ei weld.
Pentrefi
I'r teithiwr sydd yn awyddus i grwydro pentrefi'r Dyffryn y mae yna rwydwaith o fyrddau gwybodaeth sydd yn canolbwyntio ar y cyfoeth o ddiwylliant unigryw ein pentrefi cefn gwlad.
Gweithgareddau
Er mwyn archwilio Bryniau Clwyd, y llwybrau seiclo a cherdded, galwch ym Mharc Gwledig Loggerheads lle ceir digonedd o wybodaeth am yr ardal hon o Harddwch Naturiol Eithriadol. Neu ewch am dro i Ganolfan Ymwelwyr Llyn Brenig, y gronfa ddwr fwyaf yng Nghymru. Y mae'r ganolfan yn enwog am ei adnoddau pysgota plu a cheir hefyd nifer o weithgareddau dwr.

Adloniant
Am fwy o weithgareddau hamdden beth am ymweld a Choedwig sydd yn 5,500 hectar lle mae digonedd o lwybrau a chyfle i wylio adar. Cyfle i weld bywyd gwyllt y Goedwig sydd yn cynnwys y boblogaeth fwyaf o wiwerod coch ym Mhrydain gerllaw Bod Petrual sef y Lleoliad Ymwelwyr. Hefyd yn werth ymweld â hi yw'r Warchodfa Gloynod Byw nid nepell o ganol tref Rhuthun sydd yn denu ymwelwyr o bob rhan o'r byd.
(h) Hawlfraint y Goron (2007) Ymwelwch â Chymru
